Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:                     Yng ngoleuni’r hinsawdd economaidd bresennol, mae’r Rheoliadau i osod cyfradd llog unffurf ar gyfer benthyciadau Cynllun 2 a Chynllun 3 i fyfyrwyr yn unol â Chyfradd Gyfredol y Farchnad yn cael eu gwneud fel mater o drefn erbyn hyn, tra oeddent yn bur anarferol o’r blaen.

 

Gan fod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn fwy rheolaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth ac wedi nodi nad oedd asesiad o’r fath yn ofynnol.

 

Mae’r rhesymau dros hynny wedi eu nodi’n glir yn y Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023 (“Rheoliadau 2023”).

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y darparwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r blaen yn y Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2022. Fodd bynnag, gan nad yw asesiad effaith rheoleiddiol yn ofynnol o dan y Cod, nid oedd unrhyw ofyniad i atgynhyrchu’r asesiad cynharach, nac i gyfeirio ato ychwaith yn y Memorandwm Esboniadol i Reoliadau 2023.